Y PWYLLGOR MENTER A BUSNES
13 GORFFENNAF 2011

EBC(4)-01-11 – Papur 2

Tystiolaeth gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Y Pwyllgor Menter a Dysgu: Adroddiad Etifeddiaeth

1.         Carwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Pwyllgor Menter a Dysgu am yr holl waith a wnaethant yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad Cenedlaethol. Fe wnaethant gyfrannu mewn modd buddiol a chadarnhaol at waith Trafnidiaeth o fewn Adran yr Economi a Thrafnidiaeth. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Pwyllgor Menter a Busnes dros y pum mlynedd nesaf a gobeithiaf y bydd y trafodaethau a gawn yr un mor ddefnyddiol a heriol.

2.         Gosodais allan yn fras isod y cyd-destun strategol ehangach y mae’r Adran Drafnidiaeth yn gweithredu oddi mewn iddo ar hyn o bryd, yn ogystal â rhai pwyntiau allweddol ynghylch y rhwydwaith trafnidiaeth er mwyn rhoi rhywfaint o gyd-destun i’r Pwyllgor. Yr wyf hefyd wedi crynhoi’r modd y bwriadaf fwrw ymlaen o ran yr egwyddorion y gofynnais i bob maes o fewn fy mhortffolio weithredu arnynt. Bydd hyn yn gosod y llwyfan ar gyfer symud ymlaen.

Y Cyd-destun Ehangach

3.         Y Cyd-destun Sefydliadol; Mae’r Adran Drafnidiaeth bellach o fewn y Gyfarwyddiaeth Gymunedau a Llywodraeth Leol. Canlyniadau strategol Cymunedau a Llywodraeth Leol yw:

·         Lleihau tlodi

·         Gwella gwasanaethau cyhoeddus

·         Cynnal cymunedau diogel ac egnïol

·         Galluogi teithio diogel, dibynadwy a chynaliadwy

4.         Y Weledigaeth; Cymdeithas fodern lle ceir lefelau uchel o symudedd, lle bydd trafnidiaeth yn fodd i alluogi datblygiad economaidd a chymdeithasol; a lle bydd yr effaith a gaiff Cymru ar amgylchedd y Byd yn llai. Dylai’r rhwydwaith trafnidiaeth weithredu mewn modd mwy effeithlon, effeithiol, cynaliadwy a chynhwysol, a bydd gwell cydweithrediad gydag awdurdodau lleol a rhyngddynt, lle caiff gwasanaethau a swyddogaethau eu cyflenwi ar y lefel briodol.

5.         Y Cyd-destun Ehangach; Mae’r rhwydwaith trafnidiaeth yn chwarae rôl hanfodol o ran lleihau tlodi drwy gefnogi twf economaidd; gan gysylltu pobl â swyddi, danfon cynnyrch i farchnadoedd, cefnogi masnach gartref a rhyngwladol; a thrwy hynny, helpu i hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a sicrhau cynaliadwyedd cymunedau.

6.         Y Cyd-destun Cyllidebol; Yr oedd setliad Cyllideb Cymru gan Lywodraeth y DU yn dilyn ei Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant wedi arwain at swm sylweddol llai o arian ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf a refeniw ym maes trafnidiaeth.

7.         Y fframweithiau polisi presennol; Mae’r fframwaith polisi presennol ar gyfer trafnidiaeth wedi’i osod allan yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Mae’n nodi pum blaenoriaeth:

·         lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac elfennau eraill sy’n effeithio ar yr amgylchedd;  

·         integreiddio trafnidiaeth leol;

·         gwella mynediad rhwng safleoedd ac aneddiadau allweddol;

·         ychwanegu at gysylltedd rhyngwladol; a

·         chynyddu diogelwch a diogeledd.

8.         Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol (NTP) yn gweithredu ar y blaenoriaethau hyn ac yn eistedd ochr yn ochr â’r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol (RTP) wrth gyflawni Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Mae’r NTP yn cynnwys cyfres o ymyriadau a gynlluniwyd i ganfod atebion i broblemau trafnidiaeth a ddynodwyd ledled Cymru. Mae’r NTP hefyd yn cynnwys yr egwyddorion sy’n llywio’r gwaith beunyddiol o reoli’r system drafnidiaeth, gan gynnwys meini prawf cynnal y rhwydwaith sy’n galluogi’r broses o ddatblygu ymyriadau newydd a’u hamserlennu pan fo problemau’n codi.

Y Blaenoriaethau ar gyfer Trafnidiaeth

9.         Yr wyf eisoes wedi gosod allan yn y Cyfarfod Llawn ar 21 Mehefin fy safbwynt i tuag at symud gwasanaethau cyhoeddus ymlaen, ac ni fydd yn annisgwyl fod fy safbwynt tuag at drafnidiaeth yn debyg. Cyflenwi– cymryd camau ymarferol effeithiol i wella gwasanaethau i bobl Cymru. 

10.      Bydd fy null gweithredu ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus yn gyffredinol yn seiliedig ar atebolrwydd clir, cyflenwi a chydweithredu, ac ni fydd trafnidiaeth yn eithriad i hynny. Ar y lefel genedlaethol, mae gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth glir i’w chwarae o ran gosod allan y cyd-destun strategol y dylai’r Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol ac Awdurdodau Lleol weithio oddi mewn iddo. Ond mae’n ofynnol i’r Consortia a’r Awdurdodau ymgymryd â rôl arweinyddiaeth er mwyn ymateb i broblemau rhanbarthol a lleol mewn modd cydlynol a chydgysylltiedig. Mae cydweithio, boed hynny ar sail anffurfiol, ffurfiol, neu statudol yn hanfodol er mwyn parhau i ddarparu ar gyfer dinasyddion Cymru yn yr hinsawdd bresennol.

11.      Disgwyliaf i ddinasyddion Cymru fy nal i a’m swyddogion yn gyfrifol am gyflawni’r cynlluniau a’r mentrau hynny sydd o fewn fy rheolaeth. Ond yr wyf yn glir fod sefydliadau lleol a rhanbarthol yn atebol am eu perfformiad hwy wrth gyflawni eu dyletswyddau statudol, ac am ddiwallu anghenion eu cymunedau. 

12.      Fy mwriad fydd adeiladu ar waith y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol, er mwyn cyflenwi rhagor o swyddogaethau trafnidiaeth ar sail ranbarthol, ac ystyried defnyddio’r pwerau i ffurfio Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth.

13.      Mae’r ymrwymiadau a osodir allan gan y Llywodraeth hon yn cynnwys pedwar ar ddeg y mae fy Adran Drafnidiaeth yn uniongyrchol gyfrifol amdanynt, ond mae nifer o rai eraill y gall trafnidiaeth gyfrannu atynt mewn modd cadarnhaol a gwerthfawr. Mae’r tabl isod yn gosod allan yr ymrwymiadau hynny. Yr ydym wedi cymryd camau tuag at gyflawni rhai ohonynt, ac yr ydym yn gweithio tuag at gyflawni eraill. Bydd rhai o’r camau hyn, megis blaenoriaethu amcanion y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, y gofynnais i’m swyddogion ymgymryd â hwy dros y misoedd i ddod, yn cael effaith sylweddol ar raglen waith yr Adran at y dyfodol. Unwaith y bydd wedi’i gyflawni, byddaf yn rhannu’r gwaith hwn gyda’r Pwyllgor.


 

Ymrwymiad y Llywodraeth

Trosfwaol a Deddfwriaethol

Blaenoriaethu amcanion y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol

Ystyried defnyddio darpariaethau Deddf Trafnidiaeth Cymru 2006 i sefydlu un neu ragor o Gyd-awdurdodau Trafnidiaeth

Ceisio sefydlu comisiynydd traffig i Gymru

Deddfu i’w gwneud yn ddyletswydd darparu llwybrau beicio mewn mannau allweddol

Ffordd

Adolygu’r trefniadau ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd yn ystod y gaeaf sydd, ar hyn o bryd, yn nwylo’r awdurdodau lleol ac ystyried y posibilrwydd i’r rhain gael eu cyflawni gan yr Asiantaethau Cefnffyrdd yng Nghymru

Rheilffordd

Archwilio’r dichonoldeb o redeg masnachfraint Cymru a’r Gororau ar sail ddielw ddi-ddifidend

Cyflwyno achos i Lywodraeth y DU dros ragor o atebolrwydd i Lywodraeth Cymru dros Network Rail

Dadlau dros drydanu lein de Cymru - Paddington Llundain drwodd i Abertawe a datblygu’r achos busnes dros drydanu rhannau eraill o’r rhwydwaith rheilffyrdd lleol yng Nghymru  

Bws

Parhau i roi cynnig i bensiynwyr a phobl anabl a’u gofalwyr deithio yn ddi-dâl ar y bws

Gweithio gyda phartneriaid i ychwanegu at ansawdd, dibynadwyedd a diogelwch y ddarpariaeth o wasanaeth bysiau cludiant lleol.

Parhau i wella gwasanaethau fel y Rhwydwaith TrawsCymru a’r cynllun poblogaidd, yn ôl y galw, Bwcabus

Ymestyn y cymhwyster i gyn-filwyr rhyfel, a phersonél y lluoedd arfog, a anafwyd yn ddifrifol ac sy’n byw yng Nghymru i fanteisio ar y cynllun i deithio am brisiau gostyngol

Parhau i annog a chefnogi datblygiad cynlluniau cludiant cymunedol sy’n diwallu anghenion ardaloedd lleol

Archwilio’r opsiynau gorau ar gyfer darparu gwasanaethau bws lleol er mwyn i gymunedau gwledig gael mynediad at gyfleusterau.

 

Argymhellion Adroddiad Etifeddiaeth y Pwyllgor Menter a Dysgu

14.      Yr oeddwn yn falch o ddarllen yr argymhellion a wnaed yn Adroddiad Etifeddiaeth y Pwyllgor Menter a Dysgu. O’r 35 argymhelliad, mae 11 ohonynt yn gyfan gwbl oddi mewn i gylch gwaith yr Adran Drafnidiaeth ac yr wyf wedi cyflwyno diweddariad i’r Pwyllgor ynghylch pob un o’r rhain yn y tabl isod.

Argymhelliad

Ymateb

2

Yn y Pedwerydd Cynulliad, dylid craffu Gweinidogion Cymru ar y cynnydd a wneir yn eu trafodaethau gyda Llywodraeth y DU parthed sefydlu swyddfa yng Nghymru i Gomisiynydd Trafnidiaeth Cymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Mae apwyntio Comisiynwyr Traffig yn fater I Llywodraeth y DU ac heb gael ei ddatganoli i Weinidogion Llywodraeth Cymru.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cael trafodaethau gyda Llywodraeth Y DU parthed newidiadau arfaethedig i drefniadau apwyntio Comisiynwyr traffig a sut i gyflenwi presenoldeb comisiynydd Traffig yng Nghymru.

 

 

3

Yn y Pedwerydd Cynulliad, dylid herio Llywodraeth Cynulliad Cymru i gynhyrchu gwerthusiad cost-effeithiol manwl o brosiectau ffyrdd - o ran creu ffyniant a hefyd o ran cynnal cymunedau - yn ogystal â chynllun tymor hir sy’n gosod allan yn glir y blaenoriaethau ar gyfer datblygu ffyrdd yn erbyn cefndir o’r arian sydd ar gael a blaenoriaethau polisi strategol.

Mae WelTAG yn cael ei adnewyddu er mwyn sicrhau bod cynlluniau yn cael eu gwerthuso ar sail manteision ehangach i gymunedau yn ogystal â’r dull cynaliadwy o adeiladu a manteision i’r economi. Enghraifft o gyflawni manteision mewn realiti yw cynnwys targedau mewn contractau ar gyfer recriwtio a hyfforddiant yn y lleoliad lle caiff y ffordd ei hadeiladu. Llywodraeth Cymru yw’r Llywodraeth ganolog gyntaf yn y DU i wneud hyn.

5

Dylid pwyso ar Weinidogion Cymru i ddyfalbarhau gyda’r gwaith o lobïo Gweinidogion y DU ar yr achos busnes cryf dros drydanu Prif Lein y Great Western cyn belled ag Abertawe, a dylid parhau i’w craffu o ran y cynnydd a gyflawnir wrth ddatblygu’r achos busnes dros drydanu holl rwydwaith rheilffyrdd ardal Caerdydd a’r Cymoedd.

Mae’r gwaith hwn yn gwbl hanfodol, ac yr wyf eisoes wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn dadlau’r achos dros drydanu hyd at Abertawe.

Yr ydym eisoes yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddynodi a mesur manteision ychwanegol i achos busnes y DfT. Yr wyf yn ffyddiog y bydd y gwaith hwn yn arwain at well casgliad i’r achos busnes, gan gynnwys rhagor o fanteision cadarnhaol nag a gafodd eu hystyried yn flaenorol gan y DfT.

Yr ydym hefyd yn gweithio gyda’r DfT a Network Rail ar gynllun busnes i drydanu’r Cymoedd. Mae cynllun arfaethedig Llywodraeth Cymru i drydanu’r Cymoedd yn cynnwys canghennau Bro Morgannwg, Maesteg a Glyn Ebwy, yn ychwanegol at y rhwydwaith a gaiff ei ystyried gan y DfT.

Yr ydym wedi datgan yn glir i Lywodraeth y DU fod trydanu’r Cymoedd yn un o’r ddau brif flaenoriaeth sydd gennym ar gyfer cyllid Llywodraeth y DU yng Nghyfnod Rheoli 5 y rheilffyrdd (2014 - 2019).

Ein hail flaenoriaeth yw gwneud gorsafoedd yn fwy hygyrch.

6

Yn ei adroddiad yn 2010, argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru lobïo Llywodraeth y DU i gysylltu Prif Lein Gogledd Cymru yn uniongyrchol gyda Lein Gyflym 2 (HS2) sydd yn yr arfaeth o Lundain i’r Gogledd Ddwyrain a’r Alban. Dylid parhau i fonitro’r sefyllfa.

Nid yw gwelliannau seilwaith ar gyfer rheilffyrdd cyflym wedi’u datganoli ac maent yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU ar sail Cymru a Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru, fodd bynnag, yn cefnogi Rheilffordd Gyflym, i bob rhan o Gymru, a byddwn yn dal i bwyso ar Llywodraeth y DU a Network Rail am hyn.  

Credwn fod trydanu’r seilwaith presennol yn gam pwysig sy’n rhagflaenu Rheilffordd Gyflym, ac yn flaenoriaeth brys.

Ar ôl i Lywodraeth y DU benderfynu’n derfynol ynghylch trywydd y rheilffordd Gyflym, credwn y bydd cael mynediad uniongyrchol at y rheilffordd ar draws gogledd Cymru yn hanfodol. Yr ydym eisoes wedi pwysleisio hyn i Lywodraeth y DU ac yn ailadrodd y pwynt yn gadarn yn ein hymateb ffurfiol i ymgynghoriad cyfredol Llywodraeth y DU ynghylch y trywydd.

7

Dylid parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynhyrchu cynllun hirdymor ar gyfer uwchraddio cerbydau trenau’r wlad, ar y cyd gyda rhanddeiliaid eraill, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau yn addas i’r pwrpas ac yn gymathus ag anghenion technoleg y dyfodol, megis trydanu.

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ariannu unrhyw gerbydau ar gyfer y gwasanaethau a ddaw o dan fasnachfraint Cymru a’r Gororau ac rydym yn cytuno ar yr angen yn uniongyrchol gyda’r sawl sy’n dal y fasnachfraint - sef Trenau Arriva Cymru ar hyn o bryd.

Ni welwn fod angen cyhoeddi cynllun ffurfiol gan nad oes gan y rhanddeiliaid ehangach rôl i’w chwarae yn y trefniadau busnes rhwng Llywodraeth Cymru a Trenau Arriva Cymru ar gyfer cerbydau.

Cafwyd buddsoddiad sylweddol mewn cerbydau ychwanegol ac yn y gwaith o ailwampio cerbydau.

8

Dylid parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu arian refeniw ar gyfer ychwanegiadau i’r gwasanaeth rheilffyrdd lle bo’r seilwaith angenrheidiol eisoes wedi’i ddarparu, gan gynnwys cyflwyno trenau chwe cherbyd ar Leiniau’r Cymoedd fel y rhagwelwyd rai blynyddoedd yn ôl.

Mae Llywodraeth Cymru’n ymrwymedig i ddarparu cerbydau ychwanegol ar y teithiau hynny lle’r ydym wedi buddsoddi mewn platfformau hirach. 

Yr ydym yn parhau i fonitro’r galw gyda chwmni Trenau Arriva Cymru.

9

Dylid annog Gweinidogion Cymru i geisio sicrhau y caiff rhagor o bwerau perthnasol a chyllid cysylltiedig eu datganoli ar gyfer y seilwaith a’r gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru.

Mae fy swyddogion wedi bod yn pwyso a mesur yr opsiynau i sicrhau mwy o atebolrwydd dros Network Rail ac yn edrych i mewn i ddichonoldeb gweithredu Masnachfraint Cymru a’r Gororau ar sail ddi-ddifidend.

Bydd yn rhaid wrth gefnogaeth Llywodraeth y DU ar gyfer y naill ymrwymiad a’r llall a byddai’n rhaid wrth Ddeddf Seneddol y DU.

Yn y cyfamser, mae cyfleoedd i ddiwygio’r trefniadau gwaith presennol er mwyn caniatáu gweithio’n glosiach â’r diwydiant rheilffyrdd. Er enghraifft, mae rhanbartholi Network Rail yn rhoi cyfle i ymwneud yn helaethach â gweithrediad y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru.  

10

Dylid pwyso ar Weinidogion Cymru i ddefnyddio’r cam o adnewyddu masnachfraint Cymru a’r Gororau fel cyfle i negodi ychwanegiadau i wasanaethau’r rheilffyrdd a darparu cerbydau a fyddai’n caniatáu ar gyfer trydanu a thwf at y dyfodol, a hefyd fel cyfle i ystyried rhedeg y fasnachfraint ar sail ddielw neu ddi-ddifidend.

Byddem yn bendant yn awyddus i weld gweithredwr nesaf y fasnachfraint yn cyfrannu buddsoddiad ychwanegol at wasanaethau yng Nghymru.

Mae fy swyddogion wedi bod yn pwyso a mesur opsiynau i sicrhau mwy o atebolrwydd dros Network Rail ac yn edrych i mewn i ddichonoldeb gweithredu Masnachfraint Cymru a’r Gororau ar sail ddi-ddifidend.

Bydd yn rhaid wrth gefnogaeth Llywodraeth y DU ar gyfer y naill ymrwymiad a’r llall a byddai’n rhaid wrth Ddeddf Seneddol y DU.

11

Mae’n bosibl y bydd pwyllgorau yn y dyfodol yn dymuno pwyso ar Lywodraeth Cymru i ystyried defnyddio Adran Drafnidiaeth y DU i ysgogi arian Ewropeaidd ar gyfer gwelliannau i’r seilwaith rheilffyrdd sy’n gwasanaethu ardaloedd cymwys yng Nghymru, neu ardaloedd a fydd yn gymwys yn y dyfodol.

DfT sy’n gyfrifol am ariannu’r seilwaith rheilffyrdd o dan y trefniadau presennol nad ydynt wedi’u datganoli. Carem weld DfT yn gwneud y gorau o’i fuddsoddiad yn y seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru a’i bartneriaid, consortia trafnidiaeth yr Awdurdodau Lleol eisoes yn ceisio cymorth dan y rhaglen Cydgyfeiriant ar gyfer cynlluniau i wella’r rheilffyrdd.

12

Dylid annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i weithio gyda chwmnïau trenau a bysiau er mwyn datblygu system integredig ar gyfer tocynnau teithio yng Nghymru.

Mae dau gynllun peilot bach yn cael eu cyflwyno o fis Gorffennaf 2011 i brofi system arian electronig ar gyfer talu wrth deithio ar fysiau. Bydd y cynlluniau peilot yn profi’r dechnoleg ar wasanaethau bws ym Mangor, Casnewydd a Chaerdydd.

Ar yr un pryd, mae swyddogion yn gweithio gyda Threnau Arriva Cymru i ddatblygu peilot a fydd yn treialu’r cerdyn call ar gyfer teithio ar drenau. Mae trafodaethau cychwynnol wedi adnabod lein Glyn Ebwy fel ardal beilot bosibl.

14

Anogir y pwyllgor perthnasol yn y Pedwerydd Cynulliad i gyflwyno, a hynny’n fuan, Fesur y Cynulliad a fyddai’n ei gwneud yn ddyletswydd ar awdurdodau priffyrdd i ddatblygu a chynnal rhwydwaith o lwybrau di-draffig ar draws Cymru i gerddwyr a beicwyr.

Mae Prif Weinidog Cymru eisoes wedi nodi hyn fel blaenoriaeth ddeddfwriaethol.

Ceir cyhoeddiad am y rhaglen ddeddfwriaethol yn fuan.